Mynediad

Gwybodaeth am y Lleoliad

Mae'r Ffwrnes yn lleoliad perfformio a chynadleddau modern yng nghanol Llanelli. Mae'n cynnwys Prif Dŷ sy'n dal hyd at 504, lle ar gyfer hyd at 100 yn y stiwdio ac ystafelloedd cyfarfod llai eraill.

Rydym wedi ymrwymo i wneud eich ymweliad mor gyfforddus a phleserus â phosibl, felly rhowch wybod i'n staff am eich gofynion ymlaen llaw.

BSL

Gweler ein fideo dehongledig BSL yn cyflwyno ein tri lleoliad yma.

Disgrifiad sain

Mae taith disgrifiad sain o'r Ffwrnes ar gael yma.

Cyrraedd Yma

Mae Theatr y Ffwrnes yn ardal Porth y Dwyrain yn Llanelli ac mae'n agos (oddeutu 1 munud ar droed) i faes parcio talu ac arddangos Porth y Dwyrain. Mae maes parcio Porth y Dwyrain (SA15 1SE) yn faes parcio talu ac arddangos rhwng 8am a 6pm, a gellir aros am hyd at 4 awr. Mae nifer o lefydd parcio hygyrch ar gael yma.

Gallwch barcio am gyfnod hirach ym Maes Parcio Stryd Edgar/Tomas (SA15 3JE) neu ym Maes Parcio Stryd yr Eglwys (SA15 3BB) ac mae'r ddau ohonynt oddeutu 7 munud i ffwrdd ar droed.

Mae gorsaf fysiau'r dref o fewn pellter cerdded ac mae safle tacsis wedi'i leoli ar Stryd y Parc y tu allan i'r theatr.

Mae gorsaf drenau'r dref ar Gilgant Great Western (SA15 2RN) a thua 10 munud mewn car o'r Ffwrnes, a thua 20 munud ar droed.

Mae prif fynedfa'r theatr ar Stryd y Parc, sy'n rhannol yn lle i gerddwyr yn unig. Mae mynediad gwastad o'r stryd i'r swyddfa docynnau.

Mae dau brif lawr i'r adeilad ac mae grisiau a lifft rhyngddynt.

Archebu Tocynnau

Mae'r Swyddfa Docynnau ar y llawr gwaelod ac mae ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn ar gyfer archebion wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Os hoffech chi archebu lle ar gyfer cadair olwyn neu docyn Hynt, cysylltwch â'r swyddfa docynnau drwy ffonio 0345 226 3510, neu gallwch anfon e-bost atom y tu allan i oriau agor y swyddfa docynnau: theatrau@sirgar.gov.uk

Rhowch wybod i dîm ein swyddfa docynnau wrth archebu os bydd angen i chi fenthyg cadair olwyn pan fyddwch yn dod i'r theatr. (Gallwch hefyd ofyn i aelod o staff pan fyddwch yn cyrraedd, er nid ydym yn gallu rhoi sicrwydd y bydd un ar gael).

Hynt

Mae'r Ffwrnes yn aelod o Hynt.

Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim ar gyfer ei gynorthwyydd personol neu ei ofalwr wrth fynd i weld perfformiadau yn ein lleoliadau

Cliciwch yma i gael gwybod a ydych chi neu'r person rydych yn gofalu amdano yn gymwys i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.

Perfformiadau Hygyrch

Cliciwch yma i bori drwy'r perfformiadau hygyrch sydd ar gael gennym

Mannau a Seddi Hygyrch

Rydym yn gwerthu llefydd i gadair olwyn yn y Swyddfa Docynnau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn yn unig. Mae hyn oherwydd bod gwahanol lefydd yn addas ar gyfer gwahanol fathau o gadeiriau olwyn, ac rydym am sicrhau bod y gynulleidfa mewn man addas ar gyfer eu hanghenion. Wrth archebu eich tocyn, rhowch wybod i ni os oes angen lle ar gyfer cadair olwyn arnoch, gan fod angen tynnu seddi fel arfer cyn i chi gyrraedd.

Os ydych yn dymuno symud o'ch cadair olwyn i sedd theatr, mae hyn hefyd yn opsiwn cyn belled ag y byddech yn gallu gadael y theatr heb gymorth pe bai argyfwng. Bydd ein tîm Swyddfa Docynnau yn trafod eich gofynion gyda chi ac yn rhoi sedd i chi yn y man mwyaf priodol (os bydd llefydd ar gael).

Y Prif Dŷ

Mae seddi theatr y prif dŷ ar ddwy lefel:

Mae seddi'r theatr ar wahanol haenau a gellir cael mynediad i'r rhan hon o'r theatr o lefel y cyntedd. Mae gan Res D fynediad gwastad, gyda hyd at 6 o lefydd i gadeiriau olwyn.

Mae'r seddi yn y cylch ar wahanol haenau a gellir cael mynediad iddynt drwy'r grisiau neu drwy ddefnyddio'r lifft ar y llawr gwaelod. Mae gan Res C fynediad gwastad ac mae ganddi le i 2 ddefnyddiwr cadeiriau olwyn.

Gellir hefyd tynnu seddau'r prif dŷ ar gyfer digwyddiadau cabaret, lle mae byrddau a chadeiriau i gyd ar fynediad gwastad.

Wrth archebu eich tocyn, rhowch wybod i ni os oes angen lle ar gyfer cadair olwyn arnoch, gan fod angen tynnu seddi fel arfer cyn i chi gyrraedd.

Stiwdio

Mae seddi theatr y stiwdio yn hyblyg, ac mae'r cynllun yn amrywio yn ôl y cynhyrchiad; mae rhai seddi ar lefel y llawr ac mae seddi ychwanegol ar uned seddi hyblyg ar wahanol haenau.

Mae lle ar gyfer hyd at 2 ddefnyddiwr cadeiriau olwyn yn y stiwdio.

Fel arfer mae'r seddi yn y stiwdio heb eu cadw, felly wrth archebu'ch tocyn, rhowch wybod i ni os oes angen lle wedi'i neilltuo i gadair olwyn arnoch, fel y gallwn gadw lle i chi a'ch cydymaith.

Ystafelloedd Cyfarfodydd

Mae man cynadledda (Y Crochan) ac ystafell gyfarfod fach (Yr Ystafell Gastio) ar y llawr cyntaf. Mae'r ddau fan yn gwbl hygyrch a gellir cael mynediad iddynt drwy'r grisiau neu drwy ddefnyddio'r lifft ar y llawr gwaelod.

Cyfleusterau'r lleoliad

Bar a Chaffi

Mae'r Bar Caffi Cwtsh ar y llawr gwaelod ac fel arfer mae'n agor awr cyn i'r sioe ddechrau am ddiodydd, byrbrydau a lluniaeth.

Mae Bar yr Oriel ar y llawr cyntaf ac mae'n agor awr cyn i'r sioe ddechrau (ond dim ond pan fydd y Cylch neu'r Stiwdio ar agor).

Toiledau

Mae toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf. Mae digon o doiledau ar gael ac maent ar gael ym mhob rhan o'r adeilad ger yr holl brif fannau ac ystafelloedd.

Lle Newid

Mae gan y Ffwrnes Le Newid newydd, toiled i'r anabl sy'n fwy na'r cyffredin ac sydd ag offer arbenigol i gynorthwyo'r rhai y gallai fod angen help arnynt i ddefnyddio'r toiled neu i newid. Mae Lle Newid y Ffwrnes ar y llawr gwaelod yn ymyl y Caffi.

Cyfleuster Newid Cewynnau

Mae cyfleuster newid cewynnau ar gael ar y llawr gwaelod yn ymyl y Caffi.

Dolen Sain

Mae system dolen sain isgoch ar gael drwy'r adeilad. Mae angen clustffonau i ddefnyddio'r ddolen sain a gellir gofyn amdanynt gan unrhyw aelod o staff. Mae dau fath o glustffonau ar gael; chwyddseinydd; a derbynnydd sy'n gydnaws â chymhorthion clyw, ac sy'n gofyn i chi droi eich cymorth clyw i safle'r 'T'.

Cŵn cymorth

Mae croeso i gŵn cymorth. Rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau wrth archebu'ch tocynnau a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i'r sedd fwyaf addas. Gellir darparu powlenni o ddŵr ar gais.

Gwybodaeth Gadael mewn Argyfwng

Os bydd angen gadael yr adeilad mewn argyfwng, bydd larwm gweledol a chlywedol. Bydd ein tîm blaen tŷ yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i adael yr adeilad, y mannau ymgynnull agosaf a'r ardaloedd lloches.

Stori Weledol

Er mwyn helpu cynulleidfaoedd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, anhwylder synhwyraidd neu gyfathrebu, neu anabledd dysgu i baratoi ar gyfer eu hymweliad a dod yn gyfarwydd â'r amgylchoedd, gellir cael stori weledol yma.

Llyfryn

Gellir darparu'r llyfryn mewn print bras ac mewn fformatau eraill ar gais. E-bostiwch: theatrau@sirgar.gov.uk